Ymateb y Llywodraeth: Gorchymyn y Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Diwygio) 2025

 

 

Pwynt Craffu Technegol 1:                                     Fel y nodir yn y Memorandwm Esboniadol, y bwriad oedd cyhoeddi Gorchymyn 2025 o dan y weithdrefn cyhoeddi am ddim, ond oherwydd amryfusedd gweinyddol, ni wnaed hyn. Yn lle hynny, bydd Gorchymyn 2025 bellach yn cael ei ailgyhoeddi fel ailargraffiad cywiro, yn ddarostyngedig i’r weithdrefn cyhoeddi am ddim.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 2:                              Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau nad yw’r sefyllfa wedi newid ac nad oes unrhyw ddarpar gyfrwng deddfwriaethol na chyfrwng deddfwriaethol addas ar gael ar hyn o bryd i fynd i'r afael â phwynt adrodd 30.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 3:                              Ymhellach i’r llythyr gan y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig Huw Irranca-Davies AS dyddiedig 9 Medi 2024, nid oes unrhyw effeithiau wedi eu dwyn i’n sylw.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 5:                              Gall Llywodraeth Cymru gadarnhau bod yr hysbysiadau wedi eu cyhoeddi yn y London Gazette a’r Edinburgh Gazette.

 

 

Pwynt Craffu ar Rinweddau 6:                              Nid yw adran 91(2) o Ddeddf Iechyd Anifeiliaid 1981 yn rhwymo Gweinidogion Cymru i anfon Gorchmynion i’r awdurdodau lleol.

 

Mewn cysylltiad â’r ymholiadau a godir yn adroddiad y pwyllgor:

 

a) gall Llywodraeth Cymru gadarnhau na chafodd y Gorchymyn hwn ei anfon i awdurdodau lleol; 

 

b) ni chynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y Gorchymyn hwn. Mewn cysylltiad ag unrhyw Orchmynion adran 10 yn y dyfodol, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried a yw Asesiad Effaith Rheoleiddiol yn briodol fesul achos.